Pecynnau Corfforaethol
Cartref > Pecynnau Corfforaethol
Pecynnau gwyrdd a cystadleuol i fusnesau
Mae ein hethos eco a nodau cymdeithasol yn gwneud Gwesty’r Boathouse yn ddewis amlwg i unrhyw fusnes sy’n amgylcheddol a gymdeithasol gyfrifol, rydym hyd yn oed cynnig yr opsiwn i chi wrthbwyso ôl troed carbon yn eich pecyn.
Bydd pecynnau cystadleuol yn y Gwesty Boathouse yn cynnwys ystafell yn unig, Gwely a Brecwast a Gwely a Brecwast gyda swper neu bryd o fwyd tri chwrs gyda phecynnau bwyd bwffe a brecwastau tecawe ar gael ar gais. Gellir trefnu pecynnau pwrpasol hefyd. Mae prisiau’n agored i drafodaeth, yn ddibynnol ar hyd yr arhosiad a’i amlder. Cysylltwich a ni trwy i drafod eich gofynion.
Mae wi-fi ar gael ym mhob man o’r gwesty gyda phob ystafell yn ensuite a gwelyau cyffyrddus, setiau teledu a chyfleusterau gwneud te a choffi.
Rydym yn cynnig ystod eang o brydau addas ar gyfer holl ofynion dietegol, prydau arbennig dyddiol a phwdinau cartref blasus. Mae ein bwyd wedi’i baratoi’n ffres, fewnol ac yn unol â’n hethos eco, wedi i greu gan ddefnyddio cynhwysion lleol a chynhwysion o ffynonellau cyfrifol lle bynnag o fodd.
Ochr yn ochr â choffi lleol, cwrw Cymreig, lagyr, jin, rym a rhai hen ffefrynnau, mae ein bar yn llawn gwinoedd dethol sydd wedi cael eu dewis yn ofalus gan ein harbenigwyr gwin gwirfoddol, Renato Howard. Bydd sesiynau blasu Gwin a jin Cymreig, rym a chwrw ar gyfer cleientiaid busnes ar gael ar gais.
Gwybodaeth Bellach
-
Maes Parcio mawr
-
Ciniawau Busnes/bwyta/bwffe
-
Ystafell ddigwyddiadau
-
Trwyddedd alcohol 01:00yb
-
Gardd gwrw suddedig
-
Bwyty ac ystafelloedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn
-
Haearn a bwrdd smwddio
Cysylltwich a ni i drafod eich gofynion
Yn unol â chyfrifoldeb corfforaethol, os dymunwch gefnogi ein hachos ymhellach, rydym yn croesawu nawdd a hyrwyddo ar gyfer Lletygarwch Gwyllt ac Elfennau Gwyllt, ein chwaer-fenter gymdeithasol sy’n arbenigo mewn gwelliannau amgylcheddol i fusnesau, gerddi cymunedol, rhaglenni corfforaethol (Er enghraifft, adeiladu tîm, lles yn y gwaith, penwythnosau goroesi), digwyddiadau cymunedol, datblygu cynefinoedd a dysgu awyr agored i blant o dan bump i oedolion. Cysylltwch â 07799 566533 neu info@wildelements.org.uk am fwy o wybodaeth.