Ar Gyfer yr Amgylchedd
Cartref > Ar Gyfer yr Amgylchedd
Ar gyfer cymunedau, ar gyfer pobl, ar gyfer natur – Lletygarwch gyda Chalon
Mae Lletygarwch Gwyllt yn fenter gymdeithasol sydd â chenhadaeth amgylcheddol a chymdeithasol. Fe gymeron ni awenau Gwesty’r Boathouse ar y 1af o Hydref 2021 (rydym dal i ddysgu!) a’n nod yn y pen draw yw creu gwesty eco a chanolfan gymunedol i arwain y ffordd at letygarwch sy’n wyrddach ac yn fwy cymdeithasol gyfrifol.
Rydym yn gweithio’n gyson i leihau ein hôl troed carbon a gweithredu arferion gweithio’n wyrddach. Er bod llawer o waith ar ôl i’w gyflawni, rydym eisoes wedi cymryd camau sylweddol i leihau ein hôl troed carbon. Hyd yma, mae hyn yn cynnwys:

-
Newid i 100% cyflenwyr ynni gwyrdd
-
Ailgylchu ein olew coginio
-
Compostio ein gwastraff bwyd
-
Newid bylbiau golau i rai LED (parhaus)
-
Lleihau offer cegin diangen
-
Gwella cynefin gerddi a maes parcio’r gwesty (parhaus)
-
Gwella ailgylchu mewnol
-
Casglu sbwriel yn rheolaidd
-
Cyfnewid cynhyrchion glanhau ar gyfer fersiynau ecogyfeillgar
-
Tyfu rhywfaint o’n cynnyrch ar y safle, e.e. llysiau a pherlysiau
-
Tyfu rhywfaint o’n cynnyrch ar y safle, e.e. llysiau a pherlysiau
-
Defnydd o becynnu ailgylchadwy ar gyfer prydau tecawe
-
Gosod system atal gwres canolog a thermostatau newydd i reoli’r gwres mewn gwahanol rannau o’r gwesty
-
Bwydwyr adar
-
Tynnu penfras, pysgodyn anghynaladwy, oddi ar y fwydlen (er gwaethaf y cwynion!)
-
Adeiladu a lleoli bocsys adar
-
Gosod deialau rheiddiaduron a thermostatau newydd ar bob rheiddiadur
-
Hyfforddiant staff i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ac annog arferion gwaith cynaliadwy
-
Prynu coed ffrwythau Cymreig i ddarparu cynnyrch ffres i’r gegin.
-
Rydym yn ganolfan sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus
-
Cynnal 2 ddigwyddiad Meithrin Natur
-
Gwneud 20 o focsys adar gyda phlant lleol
-
Goleuadau synhwyrydd cynnig newydd wedi'u gosod ar hyd a lled y coridorau i ystafelloedd gwely
-
Cogyddes newydd, mwy eco-gyfeillgar
Rydym ar hyn o bryd yn y broses o amnewid offer cegin am ddewisiadau eco, ond mae offer cegin yn ddrud iawn, felly bydd yn cymryd oddeutu 18 mis i gyflawni hyn i’n boddhad! Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rhwydi pysgota wedi’u ailgylchu, paneli solar, ffenestri gwydr triphlyg, gwella insiwleiddio a phrynu tir ein hunain i dyfu mwy o’n cynnyrch er mwyn sicrhau ei fod yn organic o’r had i’r bwrdd ac wedi’i dyfu heb y defnydd o ddulliau naturiol o reoli plâ a chlefydau i leihau’r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr ac ati.
Rydym yn gyson chwilio am ffyrdd gwyrddach o weithio a chwilio am gyflenwyr ag ethos tebyg, felly croesewir awgrymiadau a chroesewir cyflenwyr gwyrdd. Cysylltwch â ni.
Sylwch, er ein bod yn anelu at fod mor eco cyfeillgar ac amgylchedd ymwybodol ag y gallwn, weithiau mae argaeledd a diffyg cyflenwyr lleol/Cymru/DU yn golygu’n anffodus nad yw bob amser yn bosibl oherwydd yr hyn sydd ei angen i gadw gwesty.